Swyddog arfog yn Ffrainc
Mae llywodraeth Ffrainc yn bwriadu gofyn am estyniad o ddeufis i’w ‘stad o argyfwng’ gafodd ei gyhoeddi yn sgil yr ymosodiadau brawychol ym Mharis fis Tachwedd.

Byddai’r stad o argyfwng  newydd yn ymestyn hyd at ddiwedd mis Gorffennaf, er mwyn cynyddu diogelwch cyn pencampwriaeth bêl-droed Ewro 2016 a ras seiclo’r Tour de France.

Mae disgwyl i ddegau o filoedd o Gymry groesi’r Sianel i ddilyn eu tîm yn ystod yr Ewros, sydd yn rhedeg o 10 Mehefin tan 10 Gorffennaf.

Bydd y Tour de France, sydd yn cael ei chynnal o 2 Gorffennaf i 24 Gorffennaf, hefyd yn denu torfeydd yn eu miloedd i wylio’r ras enwog.

‘Gwell ymateb’

Fe fydd y stad o argyfwng  presennol yn dod i ben ar 26 Mai ac fe fydd angen caniatâd senedd Ffrainc i’w hymestyn.

Mae’n golygu ymestyn pwerau’r heddlu i arestio neu archwilio pobol, ac yn caniatáu’r awdurdodau i gyfyngu ar symudiadau pobol a cherbydau mewn mannau ac yn ystod amseroedd penodol.

Dywedodd Prif Weinidog Ffrainc Manuel Valls y byddai’r pwerau ychwanegol yn “caniatáu gwell ymateb yn erbyn ymosodiadau brawychol” yn ystod Ewro 2016.

Mae awdurdodau’r wlad eisoes wedi cynnal sawl ymarferiad er mwyn gweld sut fydden nhw’n delio â bygythiad brawychol, gan gynnwys yn ninas Bordeaux ble bydd Cymru’n chwarae eu gêm gyntaf.

Pryder am dargedu parthau cefnogwyr

Mae cwmnïau diogelwch preifat eisoes wedi cyflogi rhagor o swyddogion yn sgil y bygythiad, tra bod trefnwyr y gystadleuaeth wedi cynyddu’r gyllideb ar gyfer diogelwch o 15%.

Yn ystod y gemau cyfeillgar diwethaf fe gyfaddefodd rhai o chwaraewyr Cymru eu bod yn pryderu rhywfaint ynglŷn â’r sefyllfa, yn enwedig yn sgil yr ymosodiadau diweddar ym Mrwsel.

Prif bryder yr awdurdodau yw y gallai’r parthau cefnogwyr, ble mae disgwyl i hyd at wyth miliwn o bobol wylio gemau ar sgriniau anferth mewn mannau cyhoeddus, gael eu targedu.

“Bydd yn rhaid sicrhau diogelwch llawn” fel bod Ewro 2016 yn gallu “bod yn ddathliad gyda’r meysydd a’r parthau cefnogwyr yn llawn,” ychwanegodd Manuel Valls.