Cyrch yr heddlu ar swyddfeydd Mossack Fonseca
Mae’r heddlu wedi cynnal cyrch ar swyddfeydd cwmni cyfreithiol yn Panama gan edrych am dystiolaeth o wyngalchu arian ac ariannu brawychiaeth.

Daw’r cyrch ar swyddfeydd cwmni Mossack Fonseca yn dilyn rhyddhau dogfennau am hafanau treth a gafodd eu sefydlu ar gyfer ei gleientiaid cyfoethog ledled y byd.

Dangosodd y dogfennau fod tad David Cameron, wedi agor cyfrif â’r cwmni a bod y Prif Weinidog wedi elwa ar yr arian hwnnw.

Roedd tua hanner dwsin o swyddogion yr heddlu i’w gweld o gwmpas y swyddfeydd wrth i erlynwyr chwilio’r swyddfa am ddogfennau.

Yn dilyn datgelu papurau Panama a gafodd eu cyhoeddi dros wythnos yn ôl, mae llywodraeth Panama wedi addo y bydd yn ymchwilio i’r achos.

Mae’r cwmni wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le, gan ddweud ei fod ond wedi agor cyfrifon ariannol tramor ar gyfer ei gleientiaid, ac nad oedd yn ymwneud o gwbl â’r ffordd roedd y cyfrifon hynny’n cael eu defnyddio.