Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi eu bwriad i “ddyblu’r gyllideb” ar gyfer Cymraeg i Oedolion pe byddent yn ffurfio llywodraeth wedi etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Daw hyn wedi pryderon ynglyn a dyfodol  y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol lle mae disgwyl newid i’r cyfrifoldebau dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, Abertawe ac Aberystwyth, gyda’r gwasanaeth yn sir Benfro yn mynd o dan ofal y Cyngor Sir.

Fe gyhuddodd llefarydd Addysg Plaid Cymru, Simon Thomas, y Llywodraeth Lafur o “fradychu’r iaith” yn wyneb yr ailstrwythuro.

“Mae unigolion wedi dod ataf i leisio pryderon dwys dros y sefyllfa ym Mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor, yn ogystal ag yng Nghaerfyrddin,” meddai gan ddweud fod y toriadau’n peri pryder o ran swyddi.

‘Hyrwyddo’r iaith’

Un o addewidion Plaid Cymru felly yw “dyblu’r gyllideb” Cymraeg i Oedolion.

Esboniodd Simon Thomas mai diben hynny fyddai “darparu hyfforddiant iaith i athrawon a gweithwyr sector cyhoeddus, helpu rhieni sydd am gynyddu defnydd o Gymraeg yn y cartref, a hyrwyddo’r iaith ymysg newydd-ddyfodiaid.”

Ychwanegodd fod angen “darpariaeth addysg i oedolion cystal â’r hyn sydd ar gael i’n pobol ifanc.”

‘Bradychu’r Gymraeg’

Fe gyhuddodd y Blaid Lafur o “gefnu ar yr iaith” gan ychwanegu, “tra bod y blaid Lafur yn barod i hepgor adnoddau sy’n cynnal agwedd annatod o fywyd Cymreig, bydd cefnogaeth y Blaid i’r iaith yn gadarn ac yn gyson.”

“Drwy ddangos diffyg cefnogaeth i’r iaith a’r swyddi ynghlwm â hi, mae llywodraeth Lafur Cymru yn euog o ddim byd llai na bradychu’r Gymraeg.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb y Blaid Lafur i’r sylwadau hyn.