Maes awyr Brwsel wedi'r ffrwydradau ar 22 Mawrth (llun: PA)
Mae pedwar dyn arall wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â’r ymosodiadau ym Mrwsel ar 22 Mawrth pryd y cafodd 32 o bobl eu lladd.

Dywed Swyddfa Erlyn Ffederal Gwlad Belg fod Mohamed Abrini, Osama K, Herve BM a Bilal EM wedi cael eu cyhuddo o gymryd rhan yn y  llofruddiaethau.

Mae dau ddyn arall a gafodd eu harestio dros y ddeuddydd ddiwethaf wedi cael eu rhyddhau.

Mae amheuon cynyddol mai’r un gell o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) oedd yn gyfrifol am ymosodiadau Paris a Brwsel, wrth i ragor o dystiolaeth ddod i’r amlwg am y cysylltiadau rhwng yr ymosodiadau.

Un o’r dynion sydd wedi eu cyhuddo yw Mohamed Abrini, yr olaf, o blith y rhai y mae gwybodaeth amdano, a oedd ar ffo ar ôl ymosodiadau Paris.

Nid yw’r erlynwyr wedi cadarnhau os mai ef hefyd yw’r “dyn yn yr het” y mae lluniau ohono’n cyrraedd maes awyr Brwsel ar fore’r ymosodiad.

Mae’r dyn sy’n cael ei enwi fel Osama K hefyd wedi cael ei adnabod gan awdurdodau Ffrainc fel rhywun yr oedden nhw’n chwilio amdano.