Archesgob Caergaint, y Parchedicaf Justin Welby (llun: PA)
Mae Archesgob Caergaint wedi darganfod mai ysgrifennydd preifat olaf Winston Churchill fel prif weinidog oedd ei dad go-iawn.

Dywed y Parchedicaf Justin Welby iddo gael syndod mawr o weld tystiolaeth DNA yn dangos mai’r diweddar Syr Anthony Montague Brown oedd ei dad biolegol.

Roedd yr archesgob, a’i fam, yr Arglwyddes Williams o Elvel, wedi credu bob amser mai Gavin Welby oedd ei dad. Dywed hi fod y newyddion yn sioc iddi, er bod ganddi frith gof o gysgu gyda Syr Anthony Montague Brown pan oedd y ddau ohonynt wedi bod yn yfed yn drwm.

Gan ei bod yn gweithio fel ysgrifennydd personol i Winston Churchill, roedd hi’n ei adnabod fel cydweithiwr.

“Mae’n ymddangos i’m mab rhyfeddol gael ei genhedlu o ganlyniad i’r gyfathrach hon,” meddai.

‘Stori o waredigaeth’

Roedd Archesgob Caergaint wedi cael ei eni bron naw mis i’r diwrnod ar ôl i’w fam briodi Gavin Welby yn America ar 4 Ebrill 1955.

Dywed fod y ddau ohonyn  nhw’n alcoholics,  er nad yw ei fam wedi cyffwrdd alcohol ers 1958. Roedd hi wedi gwahanu oddi wrth Gavin Welby yn 1958 a phriodi’r Barwn Williams o Elvel yn 1975.

Fe fu farw Gavin Welby “o ganlyniad i alcohol ac ysmygu” yn 1977 pan oedd yr Archesgob yn 21 oed.

“Dw i’n hynod o falch ohoni,” meddai’r Parchedicaf Welby am ei fam.

“Er bod elfennau o dristwch, mae hon yn stori o waredigaeth a gobaith ar ôl anawsterau tymhestlog ac anobaith ym mywydau sawl un.”