Baghdad
Mae’r awdurdodau yn Irac wedi dweud bod ymosodiad gan hunanfomiwr yn ne Baghdad wedi lladd o leiaf 14 o bobl.

Dywedodd swyddog yr heddlu bod y dyn wedi tanio’r ddyfais tu mewn i fwyty sy’n boblogaidd gyda ymladdwyr Shiite.

Ychwanegodd fod o leiaf 27 o bobl eraill wedi cael eu hanafu.

Daeth yr ymosodiad oriau’n unig ar ôl dwy ffrwydradau hunanladdiad ar wahân y tu allan i Baghdad lladd o leiaf 10 o filwyr.

Fe ddigwyddodd un yn ardal Sadr al-Qanat i’r gogledd o ddinas Baghdad, pan yrrodd hunanfomiwr ei gar yn llawn ffrwydron i mewn i safle milwrol. Lladdwyd chwech o filwyr, ac fe anafwyd 13 arall.

Fe fu ymosodiad arall ar bencadlys milwyr parafilwrol yn nhre’ Mishahda, 20 milltir i’r gogledd o Baghdad, ac fe laddwyd tri soldiwr, ac anafwyd deg.

Yn y cyfamser, dywedodd Gweinyddiaeth Dramor Twrci bod ei lysgennad yn ninas Mosul yn Irac wedi cael ei ddinistrio gan awyrennau oherwydd ei fod wedi cael ei feddiannu gan aelodau’r Wladwriaeth Islamaidd.