Cyn i Aelodau’r Cynulliad ddychwelyd i Fae Caerdydd heddiw ar gyfer cyfarfod brys i drafod y diwydiant dur, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud bod yr argyfwng wedi codi cwestiynau mawr dros arweinyddiaeth Carwyn Jones.

Yn ôl llefarydd y Democratiaid dros yr economi, Eluned Parrott, ym mis Hydref y llynedd, fe wnaeth cyflogwyr dur ac undebau llafur gyflwyno bum pwynt i achub y diwydiant.

Roedd y rhain yn cynnwys ‘trethi busnes tecach’ a ‘chefnogi busnesau lleol mewn prosiectau mawr’ – dau bwynt sy’n dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

Meddai Eluned Parrott AC: “Mae cwestiynau difrifol ynghylch arweinyddiaeth Carwyn Jones yn ystod yr argyfwng dur cenedlaethol.

“Er gwaethaf y maint yr argyfwng hwn, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ymddangos ar goll ac yn methu gweithredu’n bendant.”

Gwybod ers y Nadolig am Tata?

“Ni ddylai fod wedi cymryd bron i wythnos i Carwyn Jones drefnu beth mae’n ei alw’n gyfarfod cabinet brys,” meddai Eluned Parrott wedyn. “Mae adroddiadau bod Llywodraeth Cymru yn gwybod ers y Nadolig bod Tata yn bwriadu cau ei fusnes dur yn y DU, ac eto beth mae Carwyn Jones wedi ei wneud ers hynny mewn ymateb i’r argyfwng hwn.

“Mae’r diwydiant dur wedi gofyn dro ar ôl tro i Lywodraeth Cymru i dorri trethi busnes, ond mae wedi gwrthod gwneud hynny. Ers dros 18 mis mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw am y gostyngiad mewn cyfraddau busnes ar gyfer peiriannau trwm, ond dyw Llafur heb wneud dim byd o gwbl.

“Gadewch i ni fod yn glir. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi siomi cymunedau oherwydd ei diffyg gweithredu a’i benderfyniad i roi feto ar fesurau’r UE i atal dur rhad o Tseinia.

“Ond nid yw hynny’n golygu bod Llafur yn ddieuog. Am ddwy flynedd mae Carwyn Jones a’i Llywodraeth Lafur wedi eistedd yn ôl a gwneud dim i roi’r gefnogaeth briodol i’r diwydiant pwysig.”