ba
Mae ymosodiadau gan hunanfomwyr ym mhrifddinas Irac, wedi lladd beth bynnag ddeg o filwyr.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mwya’ gwaedlyd heddiw yn ardal Sadr al-Qanat i’r gogledd o ddinas Baghdad, pan yrrodd hunanfomiwr ei gar yn llawn ffrwydron i mewn i safle milwrol. Lladdwyd chwech o filwyr, ac fe anafwyd 13 arall.

Fe fu ymosodiad arall ar bencadlys milwyr parafilwrol yn nhre’ Mishahda, 20 milltir i’r gogledd o Baghdad, ac fe laddwyd tri soldiwr, ac anafwyd deg.

Fe ddaeth yr ymosodiadau wrth i’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) golli tir ar sawl ffrynt yn Syria ac Irac.