Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal y tu allan i bencadlys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghaerfyrddin heddiw i alw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddatblygu’r sefydliad i’r dyfodol. Daw hyn yn dilyn pryderon y gallai’r Coleg Cymraeg wynebu bygythiadau ariannol yn sgil toriadau i’r sector addysg uwch yng Nghymru.

Bydd arweinwyr myfyrwyr o Brifysgolion Cymru, UCMC a’r Coleg Addysg Bellach yn ymgynnull yng Nghaerfyrddin y prynhawn yma gan alw am “naid fawr ymlaen” i’r sefydliad.

Mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eisoes wedi llythyru â phedair plaid y Cynulliad ym mis Rhagfyr i alw am ymestyn cyfrifoldebau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol at Addysg Bellach.

‘Sefydliad addysgol blaengar’

“Yn hytrach na cheisio amddiffyn cyllideb y Coleg fel y mae, ein galwad ni yw bod y llywodraeth nesaf yn sicrhau naid fawr ymlaen i’r Coleg trwy roi iddo gyfrifoldeb dros addysg bellach ac addysg ôl-16 gyfrwng Gymraeg,” meddai Miriam Williams, Isgadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Fel hyn gall y Coleg ddatblygu cyrsiau newydd perthnasol i anghenion Cymru yn hytrach na chyfieithu cyrsiau. Gall ddatblygu i fod yn sefydliad addysgol blaengar gan estyn egwyddor addysg gyfun i oedran 16+.

“Byddwn hefyd yn galw ar y llywodraeth i ddefnyddio eu dylanwad i sicrhau fod y Coleg Cymraeg yn cael cyfran deg o arian ymchwil a ddyrennir ar hyn o bryd yn ôl criteria sy’n milwria yn erbyn addysg Gymraeg”

‘Addysg bellach’

Mae disgwyl i ymgeisydd dwyrain Caerfyrddin dros Blaid Cymru, Adam Price, annerch y dorf yn y digwyddiad gan ddweud y bydd “Llywodraeth Plaid Cymru yn ymrwymo i estyn model y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y tro cyntaf i faes addysg bellach a galwedigaethol.

“Rydym hefyd yn gweld rôl ganolog gan y Coleg mewn ymdrechion eraill i wella darpariaeth addysg mewn meysydd penodol, er enghraifft yn ein cynlluniau i wella ac uwchraddio hyfforddiant i athrawon cychwynnol a hefyd creu coleg gwasanaeth sifil fel rhan o ysgol llywodraethant newydd.”