Am y pythefnos nesaf, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cynnig cyfle i’r cyhoedd drosglwyddo unrhyw arfau neu fwledi anghyfreithlon sydd yn eu meddiant i’r heddlu – heb wynebu erlyniad.

Bwriad yr ymgyrch, ‘Ildiwch y Gwn’, yw datblygu diogelwch y strydoedd drwy sicrhau nad yw’r arfau’n mynd i’r “dwylo anghywir.”

Mae’n dilyn ymgyrch debyg yn 2014, pan gafodd 90 o ddrylliau tanio eu trosglwyddo i orsafoedd ar draws gogledd Cymru.

“Mae un arf yn llai ar y stryd yn un yn llai y gellid ei ddefnyddio i niweidio neu fygwth ein cymunedau,” meddai Neil Thomas, Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru.

‘Dwylo anghywir’

Ychwanegodd y Prif Arolygydd y bydd “yr amnest gynnau hwn yn rhoi cyfle i bobl gael gwared ar ddrylliau tanio neu fwledi heb i neb ofyn unrhyw gwestiynau drwy fynd â nhw i orsaf heddlu lleol.

“Rydym yn ffodus yng ngogledd Cymru nad ydym yn dioddef y math o droseddau gwn a throseddau treisgar sy’n digwydd mewn dinasoedd mawr,” esboniodd.

“Ond, mae arnom i gyd gyfrifoldeb i ddod o hyd i, ac ildio cymaint o ddrylliau tanio anghyfreithlon neu ddiddefnydd ag y gallwn er mwyn sicrhau nad ydynt yn disgyn i’r dwylo anghywir ar ein strydoedd, ble bynnag y bo hynny.”

Bydd yr ymgyrch yn dechrau heddiw (Ebrill 4) ac yn parhau tan ddydd Llun Ebrill 18, lle gall pobol fynd â’r drylliau i orsafoedd yr Heddlu yn Wrecsam, yr Wyddgrug, y Rhyl, Llandudno, Bae Colwyn, Caernarfon neu Gaergybi.