Dim manylion am y darn sydd wedi cael ei ddarganfod
Mae ymchwiliad ar y gweill i benderfynu ai darn o awyren MH370 o Falaysia aeth ar goll yn 2014 sydd wedi cael ei ddarganfod oddi ar ynys Mauritius.

Cafodd y darn ei ddarganfod lai na phythefnos wedi i swyddogion gadarnhau bod dau ddarn o’r awyren wedi cael eu darganfod oddi ar arfordir Mozambique.

Aeth yr awyren, oedd yn cludo 239 o bobol, ar goll tra’n teithio o Kuala Lumpur i Beijing ar Fawrth 8, 2014.

Does dim manylion ar hyn o bryd ynghylch ble fydd y darn yn cael ei archwilio.

Y llynedd, cafodd darn o adain yr awyren ei ddarganfod oddi ar ynys La Réunion.