Ffoaduriaid yn cyrraedd ynysoedd Groeg
Mae pumo o bobol wedi’u hanafu mewn gwrthdaro rhwng ffoaduriaid o Syria ac Afghanistan mewn gwersyll yng ngwlad Groeg.

Fe ddigwyddodd y gwrthdaro yn fuan fore Gwener ar ynys Chios. Dyma’r diweddara’ o blith nifer o ddigwyddiadau tebyg ledled Groeg, lle mae dros 50,000 o ffoaduriaid yn aros.

Mae Groeg wedi bod yn cadw ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd yno ers Mawrth 20, cyn eu bod yn cael eu hanfon yn ol i Dwrci yr wythnos nesa’. Dyna amodau cytundeb newydd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Thwrci.

Mae disgwyl i ddinasyddion Afghanistan fod y rhai cynta’ i gael eu hanfon yn eu holau.