Mae heddlu bellach wedi arestio dyn wedi i gerddwr 49 oed farw yn Llwynypia ar ôl cael ei daro gan gar.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod y gŵr gafodd ei arestio yn 70 oed ac yn dod o Porth. Mae wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal.

Cafodd y cerddwr ei fwrw am tua 11:15pm, ddydd Iau 31 Mawrth ar yr A4058 Teras Salem y tu allan i Westy’r Ifor Hael. Car bach â’i gefn yn codi oedd yn y gwrthdrawiad a byddai difrod wedi bod ar flaen y car.

Bu’r ffordd ar gau dros nos am bum awr tra bod ymchwiliad yr heddlu yn digwydd.

Mae Heddlu De Cymru wedi diolch wrth i cyhoedd a’r cyfryngau am eu help yn ystod yr ymchwiliad.