Salah Abdeslam
Mae’r awdurdodau yng Ngwlad Belg wedi cymeradwyo anfon Salah Abdeslam, sy’n cael ei amau o fod yn rhan o’r ymosodiadau ym Mharis, i Ffrainc.
Mewn datganiad dywedodd swyddfa’r erlynydd y byddai awdurdodau Ffrainc a Gwlad Belg yn “trafod ar y cyd i benderfynu ar y camau nesaf ynglŷn â’r trosglwyddiad.”
Cafodd Salah Abdeslam ei arestio yn dilyn cyrch gan yr heddlu ym Mrwsel ar 18 Mawrth.
Cafodd 130 o bobl eu lladd yn yr ymosodiadau brawychol ym Mharis ar 13 Tachwedd y llynedd.