Bydd arweinwyr byd yn dod at ei gilydd yn Washington i drafod sut i atal brawychwyr rhag cael eu dwylo ar ddeunydd ymbelydrol.
Mae disgwyl i Brydain fod yn flaenllaw yn y trafodaethau ar sut i ddiogelu safleoedd niwclear rhag ymosodiadau seibr.
Bydd y DU a’r Unol Daleithiau yn cymryd rhan mewn ymarfer ar y cyd y flwyddyn nesaf i baratoi am ymosodiadau posib ar-lein yn erbyn safleoedd ynni niwclear a chyfleusterau storio gwastraff.
Bydd David Cameron hefyd yn cynnig arbenigedd Prydeinig i wledydd eraill, fel Siapian, yr Ariannin, Twrci a De Corea, i ddiogelu eu hadnoddau niwclear yn dilyn pryderon y gall brawychwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) geisio creu bom.
Mae’r ymosodiadau ym Mrwsel wedi codi pryderon newydd am y posibilrwydd o ymosodiadau brawychol ar safleoedd niwclear.
Daw hyn ar ôl i wasg Gwlad Belg ddweud bod gan ddau o’r hunan-fomwyr, y brodyr Ibrahim a Khalid El Bakraoui, fideo o gartref uwch swyddog mewn cyfleuster gwastraff niwclear yn Fflandrys.
Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth y DU nad oes yna “dystiolaeth gredadwy” bod brawychwyr yn ceisio targedu cyfleusterau niwclear ym Mhrydain.