Vladimir Putin
Mae lluoedd Rwsia yn paratoi i anfon rhai o’u hawyrennau o  Syria, meddai Gweinyddiaeth Amddiffyn y wlad.

Fe gyhoeddodd yr Arlywydd, Vladimir Putin yn annisgwyl ddoe y bydd lluoedd Rwsia yn gadael Syria, wrth i drafodaethau rhyngwladol barhau yn Genefa i geisio sicrhau heddwch yn y wlad.

Mae lluoedd Rwsia wedi bod yn cynnal cyrchoedd o’r awyr ar Syria ers dros bum mis bellach.

Roedd y wlad wedi dweud ei bod am helpu llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad i adennill tir, rhyw 400 o drefi i gyd, oddi wrth wrthryfelwyr sy’n gwrthwynebu’r llywodraeth, a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Wrth wneud y cyhoeddiad y bydd ei wlad yn gadael Syria, dywedodd Putin fod Rwsia wedi cyflawni’r hyn roedd am ei wneud yn y wlad a bod yr ymgyrch fomio wedi “llwyddo”.

Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, Philip Hammond, wedi rhoi croeso gofalus i gyhoeddiad Putin gan ddweud y gallai fod yn “bositif” i’r trafodaeth heddwch yn Genefa.

 

Lleddfu’r tensiwn

Mae disgwyl i benderfyniad Putin leddfu rhywfaint ar y tensiwn rhwng Moscow ac arweinwyr byd yn y trafodaethau heddwch, yn sgil pryderon ynglŷn â gweithredu milwrol Rwsia.

Fodd bynnag, bydd Moscow yn cadw ei safle awyr yn Syria ac yn cadw ychydig o filwyr yno o hyd.

Mynnodd llywodraeth Syria fod y penderfyniad yn adlewyrchu “llwyddiannau” y ddwy fyddin yn erbyn brawychiaeth ac i adfer heddwch mewn rhai ardaloedd, gan wfftio awgrymiadau bod rhwyg yn y berthynas rhwng y ddwy wlad.

Dywedodd lluoedd Syria y bydd yn parhau i weithredu yn erbyn IS a grwpiau brawychol eraill.