Mae’r sefydliad Cydffederasiwn Diwydiannau Prydain (CBI) wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n cyflwyno “achos economaidd” i Brydain barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
Daw hyn wedi i arolwg annibynnol gan ComRes ddangos bod 80% o aelodau’r CBI, sy’n cynnwys busnesau mawr, bach a chanolig ledled y DU, ddweud y byddai aros yn yr UE yn well i’w busnesau.
Mae aelodau’r CBI yn cyflogi bron 7 miliwn o bobol ledled y DU, sef un rhan o dair o weithwyr y sector breifat.
Cafwyd 773 o ymatebion i’r arolwg, gyda 5% yn dweud y byddai eu busnesau’n well o adael yr UE, a 15% ddim siŵr.
‘Manteision sylweddol’
“Mae’r rhan fwyaf eisiau i’r DU aros yn yr UE oherwydd mae’n well i’w busnes, swyddi a ffyniant,” meddai Emma Watkins, Cyfarwyddwr CBI Cymru.
“Byddai cerdded i ffwrdd yn gwneud fawr o synnwyr economaidd ac yn cyflwyno risg o daflu i ffwrdd nifer o fanteision sydd gennym o fod yn rhan o’r UE,” ychwanegodd.
Fe bwysleisiodd fod cael mynediad at farchnad heb dollau o 500 miliwn o bobol a mwy na 30 o gytundebau masnachu ar draws 50 o wledydd yn “fanteision sylweddol sy’n gwrth-ddweud y rhwystradau.”
Fe ddywedodd hefyd y byddan nhw’n parhau i barchu ac adlewyrchu barn y rhai wnaeth ddatgan eu bod am adael ac yn “ymgyrchu am ddiwygiad i’r UE i gael cytundeb gwell i’n holl fusnesau.”
“Er bod ffyniant, swyddi a dyfodol safonau byw yn bwysig i lawer, rydym yn cydnabod bod llawer o ystyriaethau eraill. Nid ein lle ni yw dweud sut y dylai pobol bleidleisio, ond fe fydd CBI yn chwarae ei ran i wneud achos economaidd dros aros yn yr UE.”
‘Marchnad sengl’
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, fe ddywedodd yr Athro Julie Lydon, Isganghellor Prifysgol De Cymru yng Nghasnewydd: “Mae marchnad sengl yr UE yn golygu ein bod yn medru cynnig mwy o ddewis i’n cwsmeriaid ac ystod ehangach o gynnyrch ar bris mwy cystadleuol.
“Mae hyn yn dda i’n cwsmeriaid ac i’n busnesau.”