Honiadau bod Blatter wedi talu Michel Platini yn anghyfreithlon
Mae’r awdurdodau wedi bod yn chwilio pencadlys Ffederasiwn Pêl-droed Ffrainc fel rhan o’r ymchwiliad i honiadau o dwyll yn erbyn cyn-bennaeth Fifa, Sepp Blatter.
Dywedodd swyddfa Twrnai Cyffredinol y Swistir bod y Ffederasiwn wedi cydymffurfio â’r ymchwiliad.
Cafodd achos ei ddwyn yn erbyn Blatter fis Medi diwethaf yn dilyn honiadau ei fod e wedi awdurdodi tâl i gyn-bennaeth UEFA, Michel Platini yn 2011.
Cafodd dogfennau eu cymryd o’r swyddfa.
Cafodd Blatter a Platini eu gwahardd o’r byd pêl-droed am chwe blynedd yn dilyn ymchwiliad gan bwyllgor moeseg Fifa.
Mae’r ddau wedi gwadu’r honiadau, ac maen nhw wedi mynd â’u hachos at Lys Cyflafareddu’r Byd Chwaraeon.