Casnewydd 0–3 Barnet                                                                    

Colli fu hanes Casnewydd wrth i Barnet ymweld â Rodney Parade yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Sgoriodd yr ymwleyr un gôl gynnar ac un gôl yn hwyr yn yr hanner cyntaf, cyn sicrhau’r tri phwynt gyda gôl Darren Jones i’w rwyd ei hun yn yr ail hanner.

Naw munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Andy Yiadom Barnet ar y blaen yn dilyn gwaith creu Alie Sesay.

Felly yr arhosodd hi tan yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner pan ddyblodd Mark Randall fantais yr ymwelwyr.

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel hanner ffordd trwy’r ail hanner wedi i Jones droi’r bêl i’w rwyd ei hun, tair i ddim ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.

Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn nhabl yr Ail Adran, mae Casnewydd yn aros yn bedwerydd ar bymtheg, un pwynt ar ddeg yn glir o safleoedd y gwymp.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes (Owen-Evans 45’), Jones, Donacien (Davies 70’), Hughes, Rodman, Byrne, Klukowski (Morgan 45’), Ayina, Boden, Wilkinson

Cardiau Melyn: Holmes 23′, Davies 74′

.

Barnet

Tîm: Stephens, Yiadom, Nelson, N’Gala (Togwell 35’), Johnson, Champion, Sesay, Gambin (shomotun 86’), Randall (Vihete 77’), Pearson, Akinde

Goliau: Yiadom 9’, Randall 45’, Jones [g.e.h.] 69’

.

Torf: 2,032