Caerdydd 0–2 Leeds
Collodd Caerdydd gyfle i godi i safleoedd ail gyfle’r Bencampwriaeth nos Fawrth wrth golli gartref yn erbyn Leeds yn Stadiwm y Ddinas.
Sgoriodd Souleymane Doukara i’r ymwelwyr cyn i Fabio gael ei anfon oddi ar y cae i’r tîm cartref. Taflodd deg dyn yr Adar Gleision bopeth at Leeds yn y munudau olaf cyn i Mirco Antenucci ychwanegu ail yr ymwelwyr gyda gwrth ymosodiad hwyr.
Caerdydd oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ond Leeds a oedd ar y blaen wrth droi wedi i Doukara rwydo yn erbyn llif y chwarae yn dilyn gwaith creu Antenucci.
Cafodd Liam Bridcutt gyfle i ddyblu’r fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod yn dilyn camgymeriad David Marshall, ond cafodd ei ergyd wan ei chlirio oddi ar y llinell.
Roedd tasg Caerydd yn un anoddach hanner ffordd trwy’r ail hanner wedi i Fabio dderbyn ail cerdyn melyn a cherdyn coch am lorio Charlie Taylor.
Er clod iddynt, deg dyn yr Adar Gleision oedd y tîm gorau wedi hynny wrth iddynt bwyso a phwyso yn chwilio am gôl i unioni’r sgôr.
Tarodd Lex Immers y postyn a bu rhaid i Marco Silvestri wneud arbediad da i atal cic rydd Craig Noone.
Cafodd yr eilydd, Kenneth Zahore, ddau gyfle hwyr i’r tîm cartref hefyd, y cyntaf yn taro’r trawst a’r ail yn cael ei arbed gan Silvestri.
Roedd bylchau anorfod yn amddiffyn Caerdydd o ganlyniad i’r holl bwyso hwyr a rhedodd Antenucci gyda’r bêl o’i hanner ei hun i sicrhau’r tri phwynt i Leeds yn yr eiliadau olaf.
Gyda Sheffield Wednesday yn cael gêm gyfartal yn Brighton, roedd cyfle i Gaerdydd godi i safleoedd ail gyfle’r Bencampwriaeth, ond maent yn aros yn seithfed ar ôl colli gartref am y tro cyntaf ers mis Medi.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Fabio, Ecuele Manga, Connolly, Malone, Lawrence (Ameobi 76’), O’Keefe (Zohore 82’), Ralls, Wittingham (Noone 63’), Immers
Cardiau Melyn: Connolly 10’, Fabio 57’, 64’
Cerdyn Coch: Fabio 64’
.
Leeds
Tîm: Silvestri, Berardi, Bamba, Bellusci, Taylor, Bridcutt (Diagouraga 71’), Murphy, Mowatt (Dallas 76’), Cook, Antenucci, Doukara (Erwin 86’)
Goliau: Doukara 37’, Antenucci 90’
Cardiau Melyn: Bridcutt 56’, Mowatt 62’, Berardi 65’, Dallas 90’
.
Torf: 15,273