Cwch yn cludo ffoaduriaid i Wlad Groeg
Mae Llywydd y Cyngor Ewropeaidd wedi apelio ar ymfudwyr economaidd anghyfreithlon i beidio â theithio i Ewrop o gwbl.

Dywedodd Donald Tusk na ddylai pobol sy’n edrych am fywyd gwell, ac sydd ddim yn dianc rhag rhyfel, beryglu eu bywydau na’u harian drwy dalu smyglwyr i ddod â nhw i Ewrop.

Yn dilyn cyfarfod â’r Llywydd Ewropeaidd, mae Prif Weinidog Gwlad Groeg, Alexis Tsipras, wedi dweud y dylai sancsiynau gael eu rhoi ar wledydd yn Ewrop sydd ddim yn cymryd eu “cyfran deg” o’r cannoedd ar filoedd o ffoaduriaid sy’n teithio i’r cyfandir drwy ei wlad.

Fe addawodd y byddai Gwlad Groeg yn darparu amodau byw “urddasol” i’r 25,000 o fewnfudwyr sy’n sownd yn y wlad, ond mynnodd mai ateb dros dro fyddai hyn.

Roedd Donald Tusk yn Athen, fel rhan o daith drwy wledydd sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan yr argyfwng ffoaduriaid. Mae disgwyl iddo ymweld â Thwrci yn ddiweddarach.

Blocio llinell rheilffordd mewn protest

Yn y cyfamser, mae grŵp o ffoaduriaid wedi blocio llinell reilffordd ar y ffin rhwng Gwlad Groeg a Macedonia, mewn protest yn erbyn penderfyniad Macedonia i’w gwrthod rhag mynd i mewn i’r wlad.

Mae tua 10,000 o bobol yn sownd ar y ffin, ger tref Idomeni.