Donald Trump
Oriau cyn un o ddiwrnodau pwysicaf y ras Arlywyddol yn America, mae hollt mawr wedi agor rhwng y Gweriniaethwyr dros un o ymgeiswyr y blaid, y biliwnydd, Donald Trump.

Mae rhwyg wedi datblygu rhwng y sawl sy’n dweud y byddan nhw’n ei gefnogi os bydd yn ennill yr enwebiad Gweriniaethol i sefyll yn yr etholiad yn erbyn y Democratiaid, a charfan arall sy’n mynnu na fyddan nhw fyth yn rhoi eu cefnogaeth iddo.

Gall hyn achosi problemau i’r blaid wrth geisio uno ei haelodau, waeth pwy fydd yn eu cynrychioli.

Bydd 11 o daleithiau yn pleidleisio dros eu hymgeisydd Democrataidd a Gweriniaethol heddiw, dyddiad sydd wedi’i nodi fel Super Tuesday yn America.

Gall canlyniadau’r diwrnod gael effaith fawr ar yr ymgeiswyr, gyda phob un yn dibynnu arnyn nhw i gadw eu hunain yn y ras.