Mae’r Sosialwyr a’r pleidiau dros annibyniaeth i Gatalwnia wedi amddiffyn y Bil Amnest dadleuol gerbron Senedd Ewrop.

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Rhyddid Sifil, Cyfiawnder a Materion Cartref, fe wnaeth y Sosialwyr amddiffyn “dilysrwydd” nod y ddeddfwriaeth, sef “cywiro camgymeriad difrifol iawn system sefydliadol Sbaen”, yn ôl Toni Comín o blaid Junts per Catalunya.

Dywedodd nad yw Sbaen yn “ddemocratiaeth normal”.

Ond mae Plaid y Bobol a Ciudadanos, dwy blaid asgell dde, wedi gwrthod y nod, gan ddweud eu bod nhw’n poeni bod y ddeddfwriaeth yn gadael partneriaid Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen, yn “agored i beidio â chael eu cosbi”.

Y ddeddfwriaeth

Mae’r ddeddfwriaeth yn destun craffu ar hyn o bryd yn Senedd Sbaen, ar ôl i’r Gyngres ei phasio ar Fawrth 14.

Ond mae’r broses wedi cael ei hymestyn yn hirach na’r disgwy, gan fod gan Blaid y Bobol fwyafrif yn y siambr.

Ar ôl i’r siambr gynnal pleidlais, bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei throsglwyddo’n ôl i’r Gyngres am bleidlais derfynol.

Yn dilyn y bleidlais, mae’n bosib na fyddai’r ddeddfwriaeth yn dod i rym tan ddechrau neu ganol yr haf pe bai’n cael ei phasio.

Bydd y llysoedd hefyd yn cael cyfle i graffu ar y ddeddfwriaeth ac i ddod i benderfyniad ynghylch pwy allai elwa ar yr amnest pe bai’n cael ei phasio.