Ffoaduriaid yn gadael Syria
Mae America wedi wfftio cynnig gan Rwsia ar gyfer cadoediad yn Syria ar 1 Mawrth, gan ddweud bod Moscow yn rhoi cyfle i’w hun a llywodraeth Syria i geisio chwalu grwpiau o wrthryfelwyr dros y tair wythnos nesaf.
Dywedodd Washington bod angen i’r ymladd ddod i ben ar unwaith. Mae disgwyl i drafodaethau heddwch ail-ddechrau erbyn 25 Chwefror.
Daw’r cynlluniau ar gyfer cadoediad wrth i’r Unol Daleithiau, Rwsia a mwy na dwsin o wledydd eraill gwrdd ym Munich i geisio dod a diwedd i’r rhyfel cartref yn Syria, sydd wedi parhau am bum mlynedd.
Mae mwy na chwarter miliwn o bobl wedi cael eu lladd, a miloedd o bobl wedi ffoi o’u cartrefi gan achosi’r argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd. Mae hefyd wedi caniatáu i’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) feddiannu tiriogaethau ar draws rhannau o Syria ac Irac.
Dywed Rwsia ei bod yn cefnogi llywodraeth Arlywydd Syria, Bashar Assad, fel rhan o ymgyrch gwrth-frawychiaeth ond yn ôl gwledydd y Gorllewin, mae’r rhan fwyaf o’r ymosodiadau wedi targedu gwrthryfelwyr sy’n gwrthwynebu Assad ac IS.