Mosgito
Mae unigolyn o Texas wedi’i heintio â’r firws Zika drwy gyfathrach rywiol yn yr achos cyntaf i gyrraedd yr Unol Daleithiau.

Mae lle i gredu bod yr unigolyn wedi cael rhyw ag unigolyn oedd wedi bod i Venezuela.

Cafodd yr achos ei gadarnhau gan y Ganolfan Rheoli Afiechydon (CDC).

Caiff yr haint ei lledu’n bennaf drwy fosgitos, ond fe fu pryderon y gall gael ei throsglwyddo drwy gyfathrach rywiol.

Yn 2008, roedd adroddiadau bod dyn o Colorado wedi’i heintio yn Affrica a’i fod wedi rhoi’r haint i’w wraig drwy gael rhyw ac mewn achos arall, cafodd yr haint ei darganfod yn semen dyn o Tahiti.

Mae disgwyl i’r CDC gyhoeddi canllawiau yn ystod y dyddiau nesaf er mwyn ceisio atal yr haint rhag lledu ymhellach.

Argyfwng byd-eang 

Dywedodd y CDC eisoes na ddylai menywod beichiog deithio i wledydd lle mae achosion o’r firws wedi’u cadarnhau.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi argyfwng byd-eang wrth iddyn nhw geisio mynd i’r afael â Zika.

Ond maen nhw’n dweud y gallai gymryd hyd at naw mis cyn i wyddonwyr allu profi unrhyw gyswllt rhwng y firws a babanod sy’n cael eu geni â nam ar eu pennau.

Lerpwl 

Yn y cyfamser, mae arbenigwyr yn Lerpwl yn paratoi i drin yr achosion cyntaf o’r firws yng ngwledydd Prydain.

Mae Ysbyty Brenhinol Lerpwl yn un o’r canolfannau yng ngwledydd Prydain sydd â’r cyfleusterau i drin Zika.

Roedd hefyd yn un o bedwar ysbyty yng ngwledydd Prydain oedd wedi paratoi i drin cleifion Ebola yn 2014.