Ffoaduriaid o Syria
Mae arweinwyr byd yn wynebu galwadau i weithredu cytundeb gwerth biliynau o bunnoedd i gefnogi miliynau o ffoaduriaid o Syria sydd wedi ffoi o’r rhyfel cartref gwaedlyd yn y wlad.

Fe fydd asiantaethau cymorth yn dod ynghyd yn Llundain heddiw cyn i gynhadledd ryngwladol gael ei chynnal ddydd Iau, sy’n cael ei harwain gan Brydain, yr Almaen, Norwy a’r Cenhedloedd Unedig (CU).

Mae CU yn apelio am £5.4 biliwn i gynorthwyo’r miliynau o bobl sydd wedi ffoi o Syria a gwledydd ar y ffin a’r wlad dros y flwyddyn ddiwethaf.