Mae llu o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal dros y dyddiau nesaf i gefnogi pobol yn Gaza a Phalesteina, wrth i bobol ym mhob cwr o Gymru ddod ynghyd mewn undod.

Daw hyn ar ôl i’r ymladd rhwng Israel a Hamas ailddechrau ddydd Gwener (Rhagfyr 1), ar ôl saith diwrnod o gadoediad sydd bellach wedi dod i ben.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd gwystlon a charcharorion eu rhyddhau, ac roedd modd i nwyddau dyngarol gyrraedd Llain Gaza.

Ddydd Sadwrn (Rhagfyr 2), bydd gorymdaith yng Nghaerdydd am 12 o’r gloch, yn dechrau ger delw Aneurin Bevan, ac un arall yn dechrau ar hen bont Hwlffordd am 2 o’r gloch.

Ddydd Sul (Rhagfyr 3), rhwng 1 o’r gloch a 6 o’r gloch, bydd bazaar elusennol i gefnogi pobol ym Mhalesteina, wedi’i drefnu gan Dar Ul-Isra a Chymdeithas yr Aifft Cymru.

Bydd castell fownsio, paentio wynebau, stondinau bwyd, henna (math o golur llaw), stondinau dillad, a llawer mwy.

Bydd digwyddiadau hedfan barcud byd eang yn Poppit Sands ac un arall wedi’i drefnu gan Solidariaeth Palesteina Bro Ddyfi.

Bydd diwrnod Gweithredu Aberteifi dros Balesteina ar risiau Neuadd y Dref rhwng 11 o’r gloch ac 1 o’r gloch.

Bydd celf traeth i Gaza ym Mwnt yn ystod y prynhawn, ac maen nhw’n gofyn i bobol ddod â phlacardiau a baneri.

Bydd gwylnos ar y Maes yng Nghaernarfon am 6.30 hefyd.

Ganol y mis, ar ddydd Iau, Rhagfyr 14 yn Arad Goch yn Aberystwyth, bydd UNITE Community yn cynnal dangosiad o’r ffilm Gaza., gyda mynediad yn £5 a thocynnau ar gael yn Theatr Arad Goch a’r holl elw’n mynd tuag at Medical Aid for Palestinians.