Mae dau Aelod o’r Senedd wedi ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Iechyd yn codi pryderon ynglŷn â’r gwasanaeth IVF yng Nghymru.

Mae’r llythyr wedi’i ysgrifennu gan Sioned Williams a Luke Fletcher o Blaid Cymru yn sgil y newyddion fod dyfodol Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru yng Nghastell-nedd a Phort Talbot, un o ddau yng Nghymru ochr yn ochr â Chaerdydd, yn y fantol.

Daw hyn wedi i Fwrdd Iechyd Bae Abertawe ddatgan mewn cyfarfod gyda staff a’r bwrdd nad yw’r gwasanaeth yn edrych yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Tri opsiwn posib

Dywed Sioned Williams fod hyn yn “siom ac yn sioc ofnadwy” i staff, fydd bellach yn poeni am eu cleifion.

“Mae’n bwysig iawn bod yr arbenigedd a’r gwasanaethau yma ar gael yng Nghymru, felly mae’r math yma o ansicrwydd yn mynd i boeni nifer o bobol sydd angen y gwasanaeth,” meddai.

Mewn llythyr ar y cyd, dywed Sioned Williams a Luke Fletcher eu bod yn deall bod tri opsiwn posib wedi’u cyflwyno ar gyfer dyfodol y gwasanaeth, sef “dadgomisiynu, lleihau darpariaeth neu gontract allanol.”

“Bydd pob opsiwn yn cael effaith ar naill ai staff neu gleifion,” meddai’r llythyr.

Gofynna’r llythyr a yw pedwerydd opsiwn, sef i Lywodraeth Cymru gefnogi Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru i barhau â’r gwasanaeth, yn bosib.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl Mark Drakeford, mae’n fater i’r bwrdd iechyd a’r awdurdodau trwyddedu a goruchwylio.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod “yn cydnabod pa mor bwysig yw gwasanaethau IVF i’r rhai sydd eu hangen”.

“Rydym yn ymwybodol fod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cydweithio’n agos i fynd i’r afael â materion gafodd eu codi gan yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA), ac i barhau i fodloni gofynion y drwydded,” meddai.

“Ar hyn o bryd, maen nhw’n edrych ar nifer o opsiynau, gan gynnwys trefniadau wrth gefn, i sicrhau bod cleifion yn gallu parhau i gael mynediad at driniaethau ffrwythlondeb sy’n bodloni’r safonau ansawdd gafodd eu gosod gan yr HFEA.”