Mae Capel Y Priordy yng Nghaerfyrddin wedi cyhoeddi fideo arbennig 60 mlynedd union ers araith enwog Dr Martin Luther King Jr.
Cafodd yr araith gyhoeddus ‘I Have a Dream’ ei thraddodi gan yr ymgyrchydd hawliau sifil a gweinidog y Bedyddwyr yn ystod rali tros swyddi a rhyddid ar Awst 28, 1963.
Gerbron torf o fwy na 250,000 o bobol ger Cofeb Lincoln yn Washington D.C., fe alwodd am hawliau sifil ac economaidd, a therfyn ar hiliaeth yn yr Unol Daleithiau.
Doedd y rhan enwocaf o’i araith ddim wedi’i pharatoi ymlaen llaw, ac fe gafodd ei ysgogi gan ymateb Mahalia Jackson yn y dorf, wrth iddi ei annog i siarad am ei freuddwyd – neu ei weledigaeth ar gyfer Unol Daleithiau’r dyfodol – sef gwlad gydradd fyddai’n rhydd rhag caethwasiaeth a chasineb.
Daeth hon yn un o’r areithiau gwleidyddol enwocaf – os nad yr un enwocaf – erioed.
Yma, gyda chaniatâd y Parchedig Beti Wyn James, mae golwg360 yn ailgyhoeddi fideo Capel Y Priordy, lle mae hi’n darllen y gerdd ‘Mae gen i freuddwyd’ gan Gwyn Thomas.
“Neges Dr Martin Luther King Jr yn fwy perthnasol nag erioed”