Francois Hollande
Fe gyhoeddodd Arlywydd Ffrainc y bydd cyrchoedd awyr yn erbyn eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn dwysáu yn ystod y misoedd nesaf.

Mewn araith i gorfflu diplomyddol y wlad, fe ddywedodd Francois Hollande, y bydd eleni yn gorfod bod yn flwyddyn o newid yn Syria.

Mae Ffrainc wedi ymuno gyda’r Unol Daleithiau a gwledydd eraill yn y cyrchoedd awyr yn Syria ac Irac, ond dywedodd Hollande na fydd heddwch yn y wlad oni bai bod yr Arlywydd Bashar Assad yn cael ei ddisodli.

Cafodd yr ymosodiadau brawychol ym Mharis ar 13 Tachwedd 13, a laddodd 130 o bobl, eu cynnal yn bennaf gan ddinasyddion Ewropeaidd oedd yn siarad Ffrangeg, ac a oedd wedi hyfforddi gydag IS.

Fe ddywedodd Arlywydd Ffrainc fod y strategaeth ar y cyd yn erbyn yr eithafwyr yn ddibynnol ar sicrhau “rhyddid i ddinasoedd Raqqa yn Syria a Mosul yn Irac”. Mae’r ddwy ddinas hon yn ganolog fel canolfannau rheoli IS.