Yn dilyn adroddiad bod gwariant ar safleoedd tirlenwi wedi gostwng dros 23% yng Nghymru, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am gynllun blaendal ar boteli plastig er mwyn  rhoi hwb pellach i ailgylchu.

Byddai cynllun o’r fath yn golygu talu ychydig yn ychwanegol am brynu potel yn y siop, gan gael yr arian yn ôl pan fydd rhywun yn ei ailgylchu.

Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud y byddan nhw’n cyflwyno’r cynllun yng Nghymru os ydyn nhw’n dod i rym wedi etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Dywed hefyd y byddai’r masnachwyr lleiaf ddim yn gorfod bod yn rhan o’r cynllun.

Yn ôl y blaid, byddai’r cynllun yn gwella cyfraddau ailgylchu ac yn lleihau’r sbwriel yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae 75% o sbwriel y Deyrnas Unedig yn dod o gynhwysyddion diod.

Rhybuddio dros ‘agwedd hunanfodlon’

“Yn y diwedd, mae’n rhaid i ni groesawu syniadau blaengar i leihau gwastraff. Mae am newid ein meddylfryd am y sbwriel rydym yn creu,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies.

Dywedodd fod y ffigurau’n gadarnhaol i awdurdodau lleol Cymru, ond rhybuddiodd Llywodraeth Cymru dros beidio â chael ‘agwedd hunanfodlon’ a galwodd arni i gyflwyno cynllun peilot.

“Byddai cynllun peilot yn gallu chwarae rôl allweddol i ddechrau newid diwylliant (ailgylchu) yng Nghymru, ynghyd â thaclo tri chwarter y sbwriel rydym yn gweld ar ein strydoedd bob dydd.”

‘Uchelgeisiol’

Dywedodd llefarydd y blaid ar yr amgylchedd, Janet Haworth, fod y cynllun am ‘barchu a chynnal y wlad brydferth rydym yn byw ynddi.”

“Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru ddeng mlynedd yn unig i gyrraedd targed ailgylchu uchelgeisiol o 70%, ac wrth i’r llinell derfyn agosáu, mae’n mynd i fod yn anoddach i wneud gwahaniaeth,” meddai.

“Does ’na’r un rhan o Gymru sydd heb gael ei heffeithio gan sbwriel – ar ein strydoedd, ein dyfroedd a’n parciau.

“Dyna pam mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn uchelgeisiol ac yn barod i ystyried cynlluniau blaengar fel hyn, a byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru ym mis Mai yn cymryd camau i gyflwyno cynllun peilot yng Nghymru.”