Safle'r ymosodiadau ym Mharis
Mae dyn o Wlad Belg oedd a “chysylltiad uniongyrchol” ag ymosodwyr Paris wedi cael ei arestio ym Moroco, yn ôl awdurdodau’r wlad.

Mewn datganiad, dywedodd y weinidogaeth bod y dyn, sydd o dras Moroco, wedi cael ei arestio ger Casablanca ddydd Llun ar ôl teithio drwy Dwrci, yr Almaen, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.

Nid oedd y datganiad yn adnabod y dyn nac yn esbonio beth oedd ei berthynas honedig gyda’r ymosodwyr.

Roedd nifer o’r rhai a oedd wedi cynnal ymosodiadau ym Mharis, gan ladd 130 o bobl ar 13 Tachwedd y llynedd, a chysylltiadau a Moroco.