Mae llawer o brifysgolion Cymru wedi’u henwi ymhlith y ‘gwaethaf’ ym Mhrydain o ran caniatáu rhyddid mynegiant mewn tabl gan gylchgrawn ar-lein spiked.

Yn ôl y tabl, sy’n mesur polisïau cydraddoldeb pob prifysgol a nifer y weithiau mae’r brifysgol wedi gwahardd digwyddiad neu gyhoeddiad ar sail ei gynnwys ‘sarhaus’, prifysgolion Aberystwyth ac Abertawe sydd ymhlith y rhai mwyaf llym ar ryddid mynegiant.

Mae pob prifysgol wedi’i rhoi o dan system oleuadau traffig, gyda phrifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Caerdydd, Met Caerdydd a Glyndŵr yn y coch.

Roedd Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru wedi’u rhoi o dan olau oren ac mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi’i rhoi o dan olau gwyrdd, fel un o’r prifysgolion sy’n caniatáu rhyddid mynegiant llawn.

‘Creu amgylchedd gwrthwynebus i ryddid mynegiant’

“Mae Prifysgol Aberystwyth a’r Undeb Myfyrwyr yn creu amgylchedd sy’n wrthwynebus i ryddid mynegiant,” meddai’r tabl.

“Mae’r brifysgol yn rhoi cyfyngiadau ar fynegiant hiliol a rhywiaethol ac wedi gwahardd siaradwr o ganlyniad i hyn yn y tair blynedd diwethaf.

“Mae’r undeb myfyrwyr wedi gwahardd y Daily Express, y Sun a’r Daily Star; wedi rhoi cyfyngiadau ar gellwair sarhaus, ac yn gweithredu gwaharddiad ar bob sarhad hiliol, rhywiaethol a homoffobig.”

Yn ôl y cylchgrawn, mae Prifysgol Abertawe ac undeb y myfyrwyr hefyd yn “wrthwynebus” i ryddid mynegiant.

“Mae’r brifysgol yn gwahardd mynegiant homoffobig, a llynedd, cafodd grŵp crefyddol ei wahardd o’r campws. Mae undeb y myfyrwyr wedi gwahardd cylchgronau i ddynion, cymdeithas dawnsio polyn ac wedi cefnogi’r ymgyrch BDS (boicotio nwyddau o Israel ynghylch y rhyfel yn Gaza).”

Yn ôl y data, mae undebau myfyrwyr pedair gwaith yn fwy tebygol na phrifysgolion o wahardd rhywbeth ar sail ei gynnwys sarhaus.

Myfyrwyr yn cael eu gweld yn ‘rhy fregus’

Dywedodd Tom Slater, cydlynydd y tabl wrth yr Independent, fod prifysgolion i fod yn fannau ar gyfer “dadleuon rhydd sy’n mynd ar drywydd y gwir.”

“Heddiw, mewn cyfnod pan fo biwrocratiaid ar gampysau yn gweld myfyrwyr yn rhy fregus – neu’n rhy hawdd eu harwain – i wrando ar syniadau anodd, mae holl bwrpas yr academi’n cael ei danseilio, ac mae’r lefel ar gyfer sensoriaeth  yn mynd yn is,” meddai.

Cyfeiriodd at y ddeiseb i geisio gwahardd y ffeminydd enwog, Germaine Greer rhag siarad ym Mhrifysgol Caerdydd am ei sylwadau ‘trawsffobig’ ac am waharddiad prifysgol East Anglia ar ‘sombreros hiliol’ yn ystod wythnos y glas.

“Dydy myfyrwyr methu gwisgo eu hunain, heb sôn am feddwl dros eu hunain,” ychwanegodd.

Roedd yr achosion mwyaf cyffredin o sensoriaeth yn cynnwys dadleuon am drawsrywedd, anffyddwyr a secwlarwyr, Israel a boicot ar ei nwyddau, diwylliant llanciau (lad culture) a chlerigwyr Mwslimaidd.

‘Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb’

Wrth ymateb, dywedodd Prifysgol Aberystwyth mewn datganiad bod y brifysgol “yn ymroddedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb, ac yn ymdrechu i fod yn gynhwysol, gan werthfawrogi’r natur amrywiol ei staff, myfyrwyr a’r gymuned.

“Nid yw’r Brifysgol yn derbyn datganiad Spike bod ei pholisi ar ‘Gydraddoldeb ac Amrywioldeb’ yn cyfyngu ar ryddid mynegiant.

“Nid yw’r Brifysgol yn gwerthu papurau newydd, ac felly nid yw wedi gwahardd unrhyw bapurau.

Prifysgol Aberystwyth oedd y gyntaf yn y byd i sefydlu adran academaidd er mwyn astudio cysylltiadau rhyngwladol, yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac mae’r Brifysgol yn ymfalchïo ei bod yn darparu llwyfan er mwyn  archwilio’n drwyadl y sbectrwm ehangaf o safbwyntiau gwleidyddol, o fewn y gyfraith.

“Ni chynhaliwyd ymweliad arfaethedig Robert Winnicki â’r Brifysgol, a nodir gan Spike fel yr enghraifft arall o’r Brifysgol yn cyfyngu rhyddid mynegiant, gan nad oedd lleoliad wedi ei drefnu ar gyfer y cyfarfod yn y Brifysgol.”

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu ei myfyrwyr ac mae ganddi ddyletswydd gofal arnynt; mae pob gweithred ar y campws yn cymryd hynny i ystyriaeth.”