Carwyn Jones
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad y bydd cwmni Tata yn cael gwared â mwy na 1,000 o swyddi heddiw, fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod angen ymyrraeth gan Lywodraeth Prydain.

“Mae hwn yn ergyd fawr i’r ardal a chynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig,” meddai gan gyfeirio at y teuluoedd, y cymunedau a’r busnesau sy’n ddibynnol ar gynhyrchu dur ym Mhort Talbot, Llanwern a Throstre.

Fe ddywedodd ei fod am sefydlu Tasglu i gefnogi’r rhai sydd wedi’u heffeithio, ac y byddan nhw’n cyfarfod ddydd Mercher i drafod cynlluniau gweithredu.

Trafodaethau’n parhau

Fe fydd trafodaethau’n parhau gyda rheolwyr Tata, yr awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill i gefnogi’r rhai sydd wedi’u heffeithio.

Er hyn, fe ddywedodd fod y cwestiynau sylfaenol am gynhyrchu dur yng Nghymru yn mynd y tu hwnt i’r dyletswyddau datganoledig.

“Dw i nawr yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gamu mewn a chwarae eu rhan. Dyma’r amser am weithredu chwim a phendant.”

‘Prisiau ynni afresymol’

Fe ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn galw am Gynllun Strategol Cenedlaethol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dylai hyn fynd i’r afael â chostau ynni, diogelwch tymor hir y cyflenwad, materion cymorth gwladwriaethol a chost dympio o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

“Am flynyddoedd, dw i wedi ymuno â gwneuthurwyr dur Cymru wrth lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig am brisiau ynni afresymol ym Mhrydain. Dylai’r mater hwn fod wedi’i drin flynyddoedd yn ôl, ond mae’n rhaid inni weithredu ar frys yn awr ar fesurau cymorth ynni i gynhyrchwyr dur.”

Mae’n galw hefyd am fasnach fyd-eang deg i ddur Cymru, gan ddweud fod gan Lywodraeth Cymru berthynas dda gyda Tata.

“Rydym wedi cefnogi’r diwydiant dur yng Nghymru am nifer o flynyddoedd. Fe fyddwn ni’n parhau i weithio’n ddiflino i ddarparu cefnogaeth yn ystod y cyfnodau heriol hyn.”