Francois Hollande
Mae Arlywydd Ffrainc wedi datgan bod y wlad mewn “argyfwng economaidd”, gan ddweud ei bod hi’n amser i ailddiffinio model economaidd a chymdeithasol y wlad.
Yn ei araith flynyddol i arweinwyr busnes Ffrainc, amlinellodd Francois Hollande gyfres o fesurau i hybu twf economaidd ‘marwaidd’ y wlad a lleihau diweithdra parhaol.
Mae’r mesurau arfaethedig yn gymharol gymedrol, a dywedodd na fyddai’n newid yr wythnos waith 35 awr.
Mae’r mesurau sy’n cael eu cynnig yn cynnwys llacio rhai mesurau er budd gweithwyr i annog cwmnïau i gyflogi rhagor o staff a chyflwyno hyfforddiant i hanner miliwn o weithwyr.