Arlywydd Twrci Tayyip Erdogan
Dywed yr awdurdodau yn Nhwrci mai hunan-fomiwr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) o Syria oedd yn gyfrifol am ffrwydro bom mewn ardal hanesyddol yn Istanbwl gan ladd 10 o bobl.

Mae’r ardal yn boblogaidd gydag ymwelwyr a chredir bod o leiaf naw o’r rhai gafodd eu lladd yn dod o’r Almaen. Cafodd 15 o bobl eraill eu hanafu, dau ohonyn nhw’n ddifrifol, meddai swyddogion yn Nhwrci.

Yn ôl y Prif Weinidog Ahmet Davutoglu, IS oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, gan ychwanegu bod Twrci yn benderfynol o frwydro yn erbyn y grŵp eithafol fel “nad yw bellach yn fygythiad” i’r wlad na gweddill y byd.

Dywedodd asiantaeth newyddion Twrci bod Ahmet Davutoglu wedi cynnal trafodaeth dros y ffon gyda Changhellor yr Almaen Angela Merkel i estyn ei gydymdeimlad.

Mae Arlywydd y wlad Tayyip Erdogan wedi condemnio’r “ymosodiad brawychol” yn Istanbwl.

Digwyddodd y ffrwydrad yn yr ardal hanesyddol, Sultanahmet, sy’n un o brif atyniadau Istanbwl lle mae Palas Topkapi a’r Mosg i’w gweld.

Yn ôl y dirprwy Brif Weinidog Numan Kurtulmus roedd yr ymosodwr 28 oed yn dod o Syria ac mae ymchwiliad ar y gweill i’w “gysylltiadau”.

‘Wyneb creulon brawychiaeth’

Mewn cynhadledd newyddion dywedodd Angela Merkel: “Mae brawychiaeth ryngwladol unwaith eto yn dangos ei wyneb creulon heddiw.”

Mae’n debyg bod person o Norwy a Pheriw, ynghyd ag un arall o Dde Corea ymhlith y rhai gafodd eu hanafu.

Cafodd dinasyddion yr Almaen a Denmarc rybudd i gadw draw o dorfeydd ger atyniadau twristaidd yn Istanbwl.

Mae’r heddlu wedi cau’r ardal yn Sultanahmet gan atal pobl rhag mynd yno rhag ofn y bydd ail ffrwydrad.

Y llynedd roedd Twrci wedi cytuno i gymryd rhan fwy ymarferol yn yr ymosodiadau o’r awyr sy’n cael eu harwain gan yr Unol Daleithiau ar dargedau IS.

Mae awyrennau’r Unol Daleithiau yn defnyddio meysydd awyr Twrci i gynnal ymosodiadau ar IS yn Syria, ac mae’r wlad wedi cynnal rhai cyrchoedd awyr ei hun.

Mae hefyd wedi tynhau diogelwch ar hyd y ffin gyda Syria mewn ymdrech i atal y llif o filwriaethwyr.

Mae Twrci wedi dioddef dau ymosodiad bom y llynedd. Bu farw mwy na 30 o bobol yn ymosodiad hunanfomio gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn nhref Suruc ar y ffin â Syria ym mis Gorffennaf.

Ym mis Hydref, digwyddodd dau ymosodiad hunanfomio tu allan i brif ddinas y wlad, Ankara, gan ladd mwy na 100 o bobol.