Kevin Barry Mahoney
Mae Heddlu’r De wedi arestio dyn 31 oed ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn Llansawel wythnos ddiwethaf.

Cafwyd hyd i gorff Kevin Barry Mahoney, 46, tu ôl i glwb gweithwyr yn Stryd Thomas am 9.45yb ar ddydd Mercher, 6 Ionawr.

Nid yw archwiliad post mortem wedi gallu darganfod beth achosodd ei farwolaeth ac mae profion pellach yn cael eu cynnal.

Yn gynharach heddiw cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn Abertawe.

Mae dyn 44 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r farwolaeth wythnos ddiwethaf wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rob Cronick o Heddlu’r De bod rhai o ddillad Kevin Mahoney a’i eiddo personol ar goll pan gafodd ei gorff ei ddarganfod.

Maen nhw’n apelio ar unrhyw un sy’n gwybod lle mae’r dillad neu’r eiddo personol i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1600005773.