Mae swyddogion y gwasanaethau cudd yn America wedi arestio dyn a oedd, yn honedig, wedi teithio i Washington DC yn unswydd ar gyfer herwgipio ci yn perthyn i’r Arlywydd.

Fe gafodd Scott Stockert o Dickinson, Gogledd Dakota, ei holi mewn gwesty yn y brifddinas, wedi i’r gwasanaethau cudd dderbyn gwybodaeth ei fod ar ei ffordd i herwgipio “anifail anwes” Barack Obama.

Mae gan y teulu Oabama ddau gi dwr Portwgaeg, Bo a Sunny.

Mae swyddogion yn dweud iddyn nhw arestio Scott Stockert wedi iddyn nhw ddod o hyd i arfau yng nghefn ei gar.