Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau heddiw fod ymchwiliad ar y gweill, wedi i gorff dyn gael ei ganfod mewn adeilad yn Y Rhyl.

Fe gafodd swyddogion eu galw i’w ty yn Stryd y Baddon toc cyn 5yp ddydd Gwener.

Maen nhw ar hyn o bryd yn holi pobol yn yr ardal.