Bydd modd prynu copi o lyfr enwog Adolf Hitler, Mein Kampf yn Yr Almaen ar ôl i sefydliad hanesyddol yn y wlad gyhoeddi argraffiad newydd.
Mein Kampf oedd y fersiwn gyntaf o faniffesto’r Natsïaid ac nid yw wedi gweld golau dydd yn Yr Almaen ers diwedd Yr Ail Ryfel Byd.
Roedd gweinyddiaeth cyllid Bafaria wedi atal y llyfr rhag cael ei gyhoeddi yn y gorffennol, ond fe wnaeth ei hawlfraint ddod i ben 70 mlynedd ar ôl marwolaeth arweinydd y Natsïaid.
Yn ôl gweinidog addysg yr Almaen, bydd y fersiwn newydd, sy’n cael ei lansio ym Munich, yn helpu i chwalu rhai o’r chwedlau sy’n cael eu cysylltu â’r gwaith.
Dywedodd Johanna Wanka wrth sianel deledu yn Yr Almaen, n-tv, y byddai’r llyfr a’r nodiadau newydd sydd wedi eu cynnwys yn “dangos i ddisgyblion pa safbwyntiau troseddol sydd yn llyfr Hitler o’r dechrau”.
Dydy’r llyfr erioed wedi cael ei wahardd yn swyddogol.