Mae byw bywyd iachus yn llawer gwell i les pobl nag unrhyw dabledi, yn ôl un arbenigwr meddygol.

Bydd yr Athro Peter Elwood yn cyflwyno tystiolaeth yn deillio o astudiaeth dros 35 mlynedd o 2,500 o bobl yng Nghaerffili, er mwyn profi manteision ffordd iach o fyw.

Yn y ddarlith ar 19 Ionawr yn Venue Cymru fe fydd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Andrew Jones, hefyd yn cyflwyno’i adroddiad blynyddol ar iechyd a lles pobl y gogledd.

‘Cyfrifoldeb i bawb’

Yn ystod y ddarlith, sydd yn rhan o gyfres wedi’i threfnu gan Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai, mae disgwyl i’r ddau arbenigwr argymell sut y gall unigolion a phartneriaethau fynd i’r afael â’r blaenoriaethau iechyd allweddol ac anghydraddoldebau iechyd sydd yn wynebu’r boblogaeth.

“Mae gwella iechyd y boblogaeth yn gyfrifoldeb i bawb, a gobeithio y bydd fy adroddiad yn helpu i lunio sgyrsiau am y dyfodol rydym yn ddymuno’i weld ar gyfer pobl gogledd Cymru a lles cenedlaethau’r dyfodol,” meddai Andrew Jones.

“Yn ystod cyfnod o gyni parhaus, mae’n rhaid canolbwyntio ar fuddsoddi mewn atal ac ymyrraeth gynnar ac rwyf yn annog yr holl bartneriaid i weithio gyda’i gilydd fel y gallwn wireddu hyn.”

‘Gwell na philsen’

Ychwanegodd yr Athro Peter Elwood bod byw bywyd iach yn y lle cyntaf yn well i unigolion na cheisio gwella problemau efo meddyginiaeth.

“Wrth ddiogelu iechyd, mae ffordd iach o fyw yn well nag unrhyw bilsen – yn llawer gwell!

“Byddaf yn dangos hyn drwy gyflwyno canlyniadau astudiaeth dros 35 blwyddyn o 2,500 o bobl yng Nghaerffili … a’r her i boblogaeth Cymru i fabwysiadu un ymddygiad iechyd ychwanegol.”