Heddlu arfog ar strydoedd Brwsel wedi'r ymosodiadau ym Mharis
Mae arddangosfeydd tân  gwyllt i ddathlu’r Flwyddyn Newydd wedi cael eu canslo ym mhrifddinas Gwlad Belg oherwydd bygythiad o ymosodiadau brawychol.

Dywedodd maer Brwsel Yvan Mayeur bod y penderfyniad wedi cael ei wneud nos Fercher yn dilyn ymgynghoriad gyda swyddogion y llywodraeth.

“Fe gawson ni ein gorfodi i ganslo yn dilyn adolygiad o’r risg gan y Ganolfan Argyfwng,” meddai.

Ar 31 Rhagfyr y llynedd, dywedodd bod 100,000 o bobl wedi dod i’r brifddinas i ddathlu’r flwyddyn newydd.

“Yn yr amgylchiadau yma, ni allwn ni checio pawb,” meddai Yvan Mayeur.

Roedd pedwar o’r eithafwyr Islamaidd fu’n gyfrifol am ymosodiadau Paris, pan gafodd 130 o bobl eu lladd ar 13 Tachwedd, yn byw ym Mrwsel.

Paris

Ym Mharis mae’r arddangosfa tân gwyllt wedi’i ganslo ond fe fydd pobl yn ymgasglu yn ôl yr arfer yn y Champs Elysees. Fe fydd mesurau diogelwch llym mewn grym a nifer o swyddogion ychwanegol ar ddyletswydd.

Twrci

Yn Nhwrci ddoe cafodd dau berson eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio ymosodiadau yn ystod dathliadau Nos Galan yn Ankara.

Yn ôl yr asiantaeth newyddion Anadolu Agency, daeth yr heddlu o hyd i wregysau gyda ffrwydron yn y tŷ lle cafodd y ddau eu harestio.

Y gred yw eu bod yn cynllwynio i ffrwydro’r gwregysau mewn dau safle ynghanol Ankara yn ystod y dathliadau.