Mae mam yr hunanfomiwr ieuengaf a fu’n rhan o’r ymosodiadau terfysgol ar ddinas Paris fis diwetha’, wedi dweud ei bod yn “falch” mai dim ond fo’i hun gafodd ei ladd wrth iddo ffrwydro’r ddyfais ger stadiwm Stade de France.
Fe ffoniodd gwraig yn defnyddio’r enw ‘Fatima Hadfi’ i mewn i raglen drafod ar Maghreb TV, rhwydwaith poblogaidd yng ngwlad Belg ymysg y gymuned o dras Morocco.
Ar yr awyr, fe ddywedodd nad oedd ganddi’r syniad lleia’ bod ei mab, Bilal Hadfi, wedi cael ei radicaleiddio, nes iddo ei ffonio hi o Syria. Roedd wedi dweud wrthi’n flaenorol ei fod yn mynd ar ei wyliau i Morocco.
Fe ddywedodd y wraig fod eithafwyr Islamaidd wedi cymryd mantais o’i mab 20 oed wedi iddo ddechrau teimlo’n israddol gan y modd y mae’r gymdeithas yn gwahaniaethu ar sail lliw a hil yng ngwlad Belg.
Wedi’r ymosodiadau ar Dachwedd 13, mae’r wraig yn honni iddi ymweld a Stade de France, lle ffrwydrodd ei mab ddyfais nes ei chwythu ei hun yn ddarnau. Fe gafodd cyfanswm o 130 o bobol eu lladd ym mhrifddinas Ffrainc y noson honno.