Pab Ffransis (Llun PA)
Mae’r Pab wedi ymosod ar agweddau pobol at wario a gor-wneud wrth iddo roi ei neges Nadolig yn Rhufain.

Roedd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar blant, gyda phlant wedi eu gwahodd yno o wledydd y mae’r Pab Ffransis wedi ymweld â nhw.

Ac roedd ei neges yn canolbwyntio ar Iesu Grist, y baban, gyda’r plant yn gosod blodau o amgylch cerflun ohono.

“Mewn cymdeithas sydd mor aml yn feddw ar wario a phrynu a mwynhad dilyffethair, ar gyfoeth a moeth, golwg pethau a narsisistiaeth, mae’r plentyn hwn yn galw arnon ni i ymddwyn yn syber, yn syml, yn gyson,” meddai.