Mae 23 o bobol a chanddyn nhw salwch meddwl wedi cael eu lladd yn dilyn tân mewn cartref gofal yn Rwsia nos Sadwrn.

Cafodd 23 o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad ym mhentref Alferovka yn rhanbarth Voronezh.

Cymerodd hi dair awr i’r gwasanaethau brys ddiffodd y tân.

Mae ymchwiliad ar y gweill.

Roedd y meirw i gyd yn ddynion rhwng 46 a 78 oed.