Mesurau diogelwch llym yn safle'r gynhadledd ym Mharis
Mae’r Unol Daleithiau, Canada a naw o wledydd Ewropeaidd wedi cyhoeddi y bydd £166 miliwn yn cael ei roi er mwyn helpu’r gwledydd tlotaf i addasu i effeithiau newid hinsawdd fel sychder a llifogydd.
Daeth y cyhoeddiad ar ddechrau Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis heddiw.
Mae’n cynnwys cyfraniad o £35m gan yr Almaen, £34m gan yr Unol Daleithiau a £30m o Brydain.
Ymhlith y gwledydd eraill sydd wedi cyfrannu at y gronfa mae Denmarc, y Ffindir, Ffrainc, Iwerddon, yr Eidal, Sweden a’r Swistir.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu’r gwledydd lleiaf datblygedig i ddatblygu ymarferion amaethyddol newydd ar gyfer tywydd cynhesach a’u helpu i baratoi ar gyfer tywydd eithafol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.
Mae 151 o arweinwyr wedi mynychu’r trafodaethau ym Mharis ac ar ddechrau’r gynhadledd heddiw cafwyd munud o dawelwch i gofio’r rhai fu farw mewn ymosodiadau brawychol diweddar.
‘Her fyd-eang’
Arlywydd Ffrainc Francois Hollande sy’n cadeirio’r trafodaethau a dywedodd “nad oes yr un gynhadledd erioed wedi ymgynnull cymaint o arweinwyr o gymaint o wledydd ar yr un pryd.”
Ychwanegodd y byddai cytundeb cadarn rhyngwladol yn helpu i sicrhau heddwch i genedlaethau’r dyfodol ac yn lleihau nifer y ffoaduriaid sy’n gorfod ffoi oherwydd tywydd eithafol.
Mae wedi cysylltu’r frwydr yn erbyn cynhesu byd eang gyda’r frwydr yn erbyn brawychiaeth, wythnosau’n unig ar ôl yr ymosodiadau ym Mharis pan gafodd 130 o bobl eu lladd. Mae mesurau diogelwch llym mewn grym yn y brifddinas yn ystod y gynhadledd.
“Yr hyn sydd yn y fantol yn y gynhadledd hon yw heddwch,” meddai.
“Mae’r frwydr yn erbyn brawychiaeth a’r frwydr yn erbyn cynhesu byd eang yn ddwy her fyd-eang y mae’n rhaid i ni ei wynebu.”
Galwodd am “newid sylweddol” yn agweddau pobl tuag at adnoddau a’r blaned.