Jonah Lomu
Mae miloedd o alarwyr wedi bod yn talu teyrnged i Jonah Lomu mewn gwasanaeth coffa cyhoeddus i un o gewri’r byd rygbi, a fu farw’n gynharach y mis hwn yn 40 oed.
Fe fydd gwasanaeth preifat i’r teulu yn cael ei gynnal yn Auckland, Seland Newydd ddydd Mawrth.
Bu farw cyn-asgellwr y Crysau Duon ar 18 Tachwedd ar ôl dioddef o afiechyd ar yr arennau ers 1997.
Bu’n chwarae hefyd i Gleision Caerdydd am gyfnod.
Roedd nifer o’r galarwyr yn Eden Park yn Auckland yn gwisgo crys Rhif 11 Lomu.
Fe ddechreuodd y gwasanaeth gyda haka traddodiadol a bu cadeirydd World Rugby, Bernard Lapasset, Prif Weinidog Seland Newydd, John Key, a chyd-chwaraewyr Lomu gyda’r Crysau Duon yn son am ei gyfraniad i rygbi a’i waith elusennol.
Dywedodd Bernard Lapasset bod Lomu “yn gawr o ddyn sydd wedi gadael bwlch enfawr ym myd rygbi – fe fydd yn rhan o hanes rygbi am byth.”
Roedd John Key wedi anfon neges fideo o Baris lle mae’n mynychu Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.
Daeth Lomu i sylw’r byd yn ystod Cwpan y Byd 1995 pan oedd yn 20 oed gan “drawsnewid” y gêm gyda’i berfformiadau grymus.
Mae’n gadael ei wraig, Nadene a dau o feibion, Brayley, chwech, Dhyreille, pump.