Gareth Bale wedi rhwydo deirgwaith i Real Madrid y tymor hwn (llun: Adam Davy/PA)
Ar ôl eu crasfa yn El Clasico’r wythnos diwethaf roedd y pwysau ar Real Madrid i daro nôl a chadw’r pwysau ar frig La Liga gyda buddugoliaeth yn erbyn Eibar.
Yno i’w hachub nhw’r penwythnos yma oedd Gareth Bale, gyda’r Cymro’n penio ei drydedd gôl o’r tymor i’w glwb i roi Los Blancos ar y blaen yn yr hanner cyntaf, cyn i Ronaldo ychwanegu ail yn y munudau olaf i’w gwneud hi’n 2-0.
Yn Uwch Gynghrair Lloegr colli unwaith eto oedd hanes Ashley Williams a Neil Taylor gydag Abertawe wrth i Lerpwl, oedd â Joe Allen ar y fainc, gipio buddugoliaeth o 1-0 yn Anfield.
Roedd yr Elyrch yn anlwcus i golli fodd bynnag wrth i’r tîm cartref gael cic o’r smotyn ar ôl i’r bêl daro braich Taylor, penderfyniad hallt o ystyried pa mor agos oedd yr amddiffynnwr at yr ergyd.
Fe chwaraeodd Aaron Ramsey 72 munud yn ei gêm gynghrair gyntaf nôl ers anaf wrth iddi orffen yn 1-1 rhwng Arsenal a Norwich.
Ymysg yr eilyddion oedd James Chester i West Brom unwaith yn rhagor, ond doedd Ben Davies ddim hyd yn oed ar y fainc wrth i Spurs gael gêm gyfartal di-sgôr yn erbyn Chelsea.
Cafodd Newcastle eu chwalu o 5-1 i ffwrdd yn Crystal Palace gyda Paul Dummett yn un o’r amddiffynwyr gafodd brynhawn i’w anghofio.
Doedd Wayne Hennessey ddim yn rhy brysur o gwbl yn y gôl i Palace, tra bod Joe Ledley unwaith eto wedi aros ar y fainc.
Roedd Adam Matthews ymysg yr eilyddion i Sunderland am y tro cyntaf ers gwella o anaf, a lle ar y fainc yn unig hefyd oedd i Andy King gyda Chaerlŷr a Shaun Macdonald gyda Bournemouth.
Y Bencampwriaeth
Colli gartref o 2-0 yn erbyn Middlesbrough oedd hanes Emyr Huws a Huddersfield wrth iddyn nhw lithro i safleoedd y cwymp yn y Bencampwriaeth.
Roedd David Vaughan a Chris Gunter yn wynebu’i gilydd wrth i Nottingham Forest drechu Reading o 3-1, ond ddaeth Jonny Williams ddim oddi ar y fainc
Gorffennodd yn gyfartal o 2-2 rhwng Blackburn a Sheffield Wednesday gydag Adam Henley yn chwarae gêm lawn a Tom Lawrence yn dod oddi ar y fainc yn y munud olaf i’r tîm cartref.
Doedd hi ddim yn gêm i’w chofio i Morgan Fox, gafodd gerdyn melyn a’i eilyddio ar er egwyl wrth i Charlton golli 3-0 gartref yn erbyn Ipswich, a di-sgôr oedd hi rhwng Wolves ac MK Dons wrth i Dave Edwards chwarae 63 munud.
Colli o 3-1 gartref yn erbyn Celtic oedd hanes Owain Fôn Williams gydag Inverness yn Uwch Gynghrair yr Alban, ond fe gododd Aberdeen i’r ail safle ar ôl i dîm Danny Ward ac Ash Taylor drechu Ross County o 3-1.
Ac roedd ambell gôl i’r Cymry yng Nghynghrair Un, gyda Louis Thompson rwydo un a chreu un arall ym muddugoliaeth gyfforddus Swindon dros Chesterfield.
Sgoriodd Tom Bradshaw a Lee Evans yn erbyn timau ei gilydd hefyd wrth i Walsall drechu Bradford o 2-1.
Seren yr wythnos – Gareth Bale. Nôl yn sgorio i Real Madrid ac yn gwneud beth mae o’n ei wneud orau.
Siom yr wythnos – Paul Dummett. Asgellwyr Palace yn rhoi hunllefau iddo wrth i Newcastle gael cweir.