Lluoedd Twrci yn amddiffyn y ffin a Syria
Mae Twrci wedi cadarnhau ei fod wedi saethu awyren filwrol o Rwsia i’r llawr gan honni ei fod wedi mynd i ofod awyr Twrci ac wedi anwybyddu sawl rhybudd.
Yn ôl Rwsia cafodd yr awyren ei saethu i’r llawr tra roedd yn cynnal ymosodiadau o’r awyr yn Syria, ond mae Twrci’n honni ei fod wedi saethu at yr awyren ar ôl iddi anwybyddu nifer o rybuddion.
Mae Rwsia’n gwadu bod yr awyren wedi croesi’r ffin o Syria i ofod awyr Twrci, gyda’r gweinidog amddiffyn yn dweud eu bod yn “ymchwilio i amgylchiadau’r ddamwain.”
Mae’n debyg bod y ddau beilot wedi taflu’u hunain o’r awyren cyn iddi daro’r ddaear. Dywed gwrthryfelwyr sydd ger y ffin yn Syria eu bod nhw wedi saethu un o’r peilotiaid ond nid yw’n glir beth sydd wedi digwydd i’r peilot arall.