Mae pedwar o Brydain ymysg saith o bobl sydd wedi cael eu lladd mewn damwain hofrennydd yn Seland Newydd.

Roedd yr hofrennydd yn cludo ymwelwyr i weld rhewlif y Fox Glacier ar Ynys y De pan ddigwyddodd y ddamwain am 11am fore Sadwrn (amser lleol).

Er i hofrennydd achub gael ei anfon allan, cafodd ymdrechion yr achubwyr i gyrraedd y safle eu rhwystro gan geunentydd serth a thir garw. Dywed yr heddlu eu bod yn gobeithio nôl y cyrff oddi yno ddydd Sul, ond y gallai gymryd mwy o  amser i adnabod y cyrff yn ffurfiol.

Dyma’r ail ddamwain angheuol yn y gyrchfan boblogaidd lle bu farw naw o bobl yn 2010 wrth i awyren ddisgyn gerllaw’r rhewlif.